Gwella’r Cwricwlwm

Mae'r Pecyn Cymorth ETC yn adnodd ar-lein newydd a ddatblygwyd gan addysgwyr ac a gyflwynir gan Brifysgol De Cymru, i rannu ymagweddau sy'n adeiladu sgiliau a hyder mewn dysgwyr. Gan ddefnyddio Datganiadau Meincnodi Pwnc y QAA, mae'n darparu canllawiau addysgu ac enghreifftiau achos pwnc-benodol.

Mae'r Pecyn Cymorth yn dwyn ynghyd gronfa o adnoddau sydd ar gael yn rhwydd i gynnig ysbrydoliaeth a chefnogaeth i staff wrth iddynt edrych i ddefnyddio dulliau newydd o fewn y cwricwlwm i ymestyn gwybodaeth bynciol, datblygu hyder a meithrin sgiliau o fewn dysgwyr.

Gan adeiladu ar Feincnodi Pwnc Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU (QAA), mae'r Pecyn Cymorth ETC yn nodi sgiliau menter y gellir eu datblygu o fewn pob disgyblaeth pwnc. Mae defnyddwyr yn cael eu harwain i ystod o ganllawiau techneg addysgu “profedig” sy'n cefnogi datblygiad y sgiliau hyn.  Mae'r canllawiau yn cael eu hategu gan enghreifftiau o achosion sy'n seiliedig ar bwnc bywyd go iawn. Mae'r enghreifftiau o achosion hyn yn dangos sut y mae academyddion yn eich maes pwnc yn gweithio gyda'u myfyrwyr a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar eu dysgwyr.

Y Camau Nesaf

Gallwch edrych ar y pecyn cymorth ETC drwy ddilyn y llwybr a gynigir ar yr hafan.  Mae hyn yn creu llwybr o fewn eich ardal Pwnc (drwy'r Pwnc Meincnodi QAA) a fydd yn eich darparu gyda detholiad o ddulliau gyda'r nod o ddatblygu canlyniadau graddedig am eich datganiad meincnodi pwnc.

Fodd bynnag, gallwch hefyd edrych ar y Pecyn Cymorth llawn yn uniongyrchol o'r hafan. Yn hytrach na dewis pwnc, dewiswch y “Canllawiau ETC Sut i” a sgrolio drwy'r rhestr gyfan.  Mae pob canllaw wedi ei restru gyda’i enw disgrifiadol a hefyd pa rai o'r Canlyniadau Graddedig Thematig QAA o'r Canllawiau Menter ac Entrepreneuriaeth (2012) y mae'n eu cefnogi. Caiff y rhain eu rhifo 1-7 drwy'r safle hwn ac fe’u rhestrir fel:

  1. Creadigrwydd ac Arloesedd
  2. Adnabod, creu a gwerthuso cyfle
  3. Gwneud penderfyniad wedi ei gefnogi gan ddadansoddiad a barn feirniadol
  4. Gweithredu syniadau trwy arweinyddiaeth a rheolaeth
  5. Myfyrdod a Gweithredu
  6. Sgiliau Rhyngbersonol
  7. Cyfathrebu a Strategaeth

Cymerwch olwg!

Canllaw Safle Llawn

Drwy ddechrau yn hafan y Pecyn Cymorth ETC, cewch eich gwahodd i ardal “Dewiswch eich pwnc” sy'n cael ei gyflwyno o dan y dosbarthiadau canlynol:

Amaethyddiaeth a Milfeddygaeth

Creadigol

Y Dyniaethau

Busnes, y Gyfraith a Chyfrifeg

Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg

Iechyd

Pensaernïaeth a'r Amgylchedd Adeiledig

Cliciwch ar y pwnc yr ydych wedi ei ddewis fel yr un sy’n cynrychioli eich cwrs / addysgu orau. Unwaith y byddwch wedi mynd at y pwnc hwn, byddwch yn gweld yr ystod o Ddatganiadau Meincnodi QAA yr ydym wedi eu rhestru yn y maes hwn. Mae pob un o'r rhain yn gysylltiadau 'cliciadwy' felly dewiswch y rhaglen sy'n adlewyrchu orau eich addysgu a chliciwch i weld y sgiliau menter a nodwyd yn y Canllawiau QAA ar gyfer Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth (2012) ar gyfer eich pwnc.

Wrth i chi sgrolio i lawr, byddwch yn gweld rhestr awgrymedig o “Canllawiau Sut i” a fydd yn mynd i'r afael â'r datblygiad sgiliau a nodwyd gan y datganiad meincnod QAA fel yr un sy’n cyfateb i ganlyniadau graddedig thematig a restrir o fewn y Canllawiau QAA ar gyfer Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth (2012).

Cliciwch ar y saeth i’r dde i ryddhau'r “Canllawiau Sut i” llawn.  Bydd hyn yn caniatáu i'r manylion agor a byddwch yn cael y manylion canlynol:

Themâu Menter QAA:

Mae'r Canllawiau QAA ar gyfer Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth (2012) yn nodi saith dull thematig sy'n cefnogi datblygiad ymddygiad mentrus, priodoleddau a sgiliau fel canlyniadau graddedig. Y rhain yw:

  1. Creadigrwydd ac Arloesedd
  2. Adnabod creu a gwerthuso cyfle
  3. Gwneud penderfyniad wedi ei gefnogi gan ddadansoddiad a barn feirniadol
  4. Gweithredu syniadau trwy arweinyddiaeth a rheolaeth
  5. Myfyrdod a Gweithredu
  6. Sgiliau Rhyngbersonol
  7. Cyfathrebu a Strategaeth

Maint Grŵp: Gan gydnabod y gall maint y dosbarth effeithio ar y dewis o ddulliau addysgu priodol, mae pob canllaw yn rhoi maint grŵp dangosol.

- Gweithio mewn grwpiau bach (4-6 mewn tîm)

- Tasg unigol

- Grŵp Mawr

Amgylchedd Dysgu: Mae hyn yn dangos pa un o'r mannau dysgu nodweddiadol yr ydych yn debygol o gael eich amserlennu iddynt; sydd fwyaf priodol ar gyfer y dull hwn.

- Theatr Darlithio

- Gofod Cyflwyniad

- Byrddau Carwsél (gweithgorau bach)

- Unrhyw un

- Lle y tu allan

- Mannau pwnc arbenigol

Teitl   Dyma deitl y dechneg, a ddewiswyd i roi cipolwg i'r math o weithgaredd.

Amcan   Caiff amcanion dysgu dangosol eu nodi ar gyfer pob gweithgaredd.

Trosolwg Mae'r disgrifiad byr hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddeall pwrpas y gweithgaredd a sut y gellir ei gyflawni.

Gweithgaredd Yr adran hon yw eich canllawiau “sut i” sy’n darparu'r holl wybodaeth rydych ei hangen i gyflawni hyn yn y dosbarth.

Datblygu Sgiliau  Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar sut y mae’r sgiliau’n cael eu datblygu o fewn y gweithgaredd hwn ac yn nodi pwyntiau dysgu allweddol a sut i ddefnyddio myfyrio i ddyfnhau dealltwriaeth o'r broses a’r sgiliau a ddatblygwyd.

Adnoddau Efallai y bydd yn ofynnol i chi baratoi ymlaen llaw ar gyfer rhai gweithgareddau. Gall hyn fod mor syml ag ail-gyflunio’r ystafell, neu gallai ei gwneud yn ofynnol prynu eitemau penodol.

Cyfeiriadau   Lle bo’n bosibl caiff deunyddiau ychwanegol a deunyddiau cefnogi eu darparu i'ch cefnogi chi.

Awdur Mae llawer o'r dulliau 'profedig' hyn wedi cael eu darparu’n hael gan gydweithwyr i gefnogi datblygiad eich dysgwyr. Rydym yn diolch i bawb sydd wedi rhannu eu harbenigedd mor barod.

O dan y Canllawiau Sut i fe welwch enghreifftiau achos o'ch maes pwnc, neu un cysylltiedig. Mae'r rhain yn rhoi amlinelliad o sut y mae gwahanol dechnegau yn cael eu defnyddio wrth addysgu a'r effaith y mae hyn wedi'i gael ar y myfyrwyr.

O fewn pob Enghraifft Achos cewch wybodaeth ynghylch sut y defnyddiwyd y dull hwn. Bydd manylion yn cynnwys:

Maint Grŵp: Mae pob astudiaeth achos yn rhoi maint grŵp dangosol

- Gweithio mewn grwpiau bach (4-6 mewn tîm)

- Tasg unigol

- Grŵp Mawr

Amgylchedd Dysgu: Mae hyn yn dangos pa un o'r mannau dysgu nodweddiadol yr ydych yn debygol o gael eich amserlennu iddynt; sydd fwyaf priodol ar gyfer y dull hwn.

- Theatr Darlithio

- Gofod Cyflwyniad

- Byrddau Carwsél (gweithgorau bach)

- Unrhyw un

- Lle y tu allan

- Mannau pwnc arbenigol

Themâu Menter QAA:

Mae'r Canllawiau QAA ar gyfer Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth (2012) yn nodi saith dull thematig sy'n cefnogi datblygiad ymddygiad mentrus, priodoleddau a sgiliau fel canlyniadau graddedig. Y rhain yw:

  1. Creadigrwydd ac Arloesedd
  2. Adnabod creu a gwerthuso cyfle
  3. Gwneud penderfyniad wedi ei gefnogi gan ddadansoddiad a barn feirniadol
  4. Gweithredu syniadau trwy arweinyddiaeth a rheolaeth
  5. Myfyrdod a Gweithredu
  6. Sgiliau Rhyngbersonol
  7. Cyfathrebu a Strategaeth

Amcanion   Mae’r amcanion dysgu o’ch enghraifft achos wedi eu hamlinellu.

Cyflwyniad Amlinelliad o'r achos ei hun gan ddarparu trosolwg byr.

Gweithgaredd Disgrifiad o'r gweithgaredd a'r modd y gweithiodd y dechneg gyda'r myfyrwyr.

Effaith Mae'r effaith ar y myfyrwyr yn cael ei harchwilio.

Deilliannau Dysgwyr Caiff y canlyniad ar gyfer y dysgwyr ei ddisgrifio, gan gyfeirio'n benodol at y pwnc / disgyblaeth.

Adnoddau Mae'r adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno'r gweithgaredd wedi eu rhestru.

Awdur Mae’r rhan fwyaf o'r enghreifftiau achos wedi eu hawduro’n hael gan y rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda myfyrwyr.

Byddwch nawr yn dod o hyd i'r un gefnogaeth ar gyfer Ymgorffori Entrepreneuriaeth. Bydd hyn yn cynnwys Canllawiau Sut i ac Enghreifftiau Achos. Mae hefyd yn rhoi cyfle i gyflwyno eich enghreifftiau eich hun i gefnogi eraill.

Islaw’r cymorth hwn fe welwch Adnoddau Ychwanegol. Gall yr adran hon gynnwys Astudiaethau Achos o Arfer Dda mewn ymarfer dysgu, yn ogystal ag Adnoddau Dechrau Busnes i'ch cefnogi chi a'ch myfyrwyr