Gall dewis y dulliau cywir o addysgu wella profiad y myfyrwyr. Mae'r safle hwn wedi cael ei ddatblygu gan Brifysgol De Cymru i'ch cefnogi wrth i chi geisio defnyddio dulliau newydd i adeiladu sgiliau a hyder yn eich dysgwyr wrth iddynt weithio i ymestyn eu gwybodaeth pwnc.
Gan adeiladu ar feincnodi pwnc Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU (QAA), bydd y wefan hon yn eich arwain drwy eich Pwnc Disgyblaeth i nodi'r sgiliau menter y gellir eu datblygu yn y dosbarth. Yna, cewch eich tywys i ystod o dechnegau 'profedig' sy'n cefnogi datblygiad y sgiliau menter hyn. Mae'r detholiad hwn o Ganllawiau “Sut i” yr ETC yn cael eu cyflwyno mewn fformat safonol a fydd yn eich cynorthwyo i fewnosod ytechnegau hyn yn eich addysgu.
Mae'r canllawiau hyn hefyd yn cael eu hategu gan enghreifftiau o achosion sy'n seiliedig ar bwnc bywyd go iawn. Mae'r enghreifftiau o achosion hyn yn dangos sut y mae academyddion yn eich maes pwnc yn gweithio gyda'u myfyrwyr a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar eu dysgwyr.
Y Camau Nesaf
Drwy ddechrau yn y dudalen hafan Pecyn Cymorth ETC, fe'ch gwahoddir i “Dewis eich Pwnc”. Cliciwch ar y pwnc yr ydych wedi ei ddewis fel yr un sy’n cynrychioli eich cwrs / addysgu orau.
Unwaith y byddwch wedi mynd at y pwnc hwn, byddwch yn gweld yr ystod o Ddatganiadau Meincnodi QAA yr ydym wedi eu rhestru yn y maes hwn. Mae pob un o'r rhain yn gysylltiadau 'cliciadwy' felly dewiswch y rhaglen sy'n adlewyrchu orau eich addysgu a chliciwch i weld y sgiliau menter a nodwyd yn y Canllawiau QAA ar gyfer Menter ac Entrepreneuriaeth Addysg (2012) ar gyfer eich pwnc.
Wrth i chi sgrolio i lawr, byddwch yn gweld rhestr awgrymedig o “Ganllawiau Sut I” a fydd yn mynd i'r afael â'r datblygiad sgiliau y mae datganiad meincnod y QAA wedi ei nodi fel un sy’n cyfateb i’r canlyniadau graddedig thematig a restrir o fewn y Canllawiau QAA ar gyfer Menter ac Entrepreneuriaeth Addysg (2012). Cliciwch ar y saeth dde i ryddhau'r “Canllawiau Sut i” llawn.
O dan y Canllawiau ‘Sut i’ fe welwch Enghreifftiau Achos Pwnc o'ch maes pwnc, neu un cysylltiedig. Mae'r rhain yn rhoi amlinelliad o sut y mae gwahanol dechnegau yn cael eu defnyddio wrth addysgu a'r effaith y mae hyn wedi'i gael ar y myfyrwyr.
Yna byddwch yn dod o hyd i Ganllawiau Sut i ac Enghreifftiau Achos Pwnc sy'n eich cefnogi os ydych yn Ymgorffori Entrepreneuriaeth.
Wrth i chi sgrolio i ben y dudalen, fe welwch Adnoddau Ychwanegol i'ch cefnogi ymhellach.
Mae'r wefan hon wedi'i hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) a’i darparu gan Brifysgol De Cymru. Wedi ei hategu gan waith yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Mae adnoddau a chymorth wedi cael eu croesawu gan:
Mae'r prosiect hwn yn arddangos deunyddiau 'profedig' ac enghreifftiau achos. Mae'n cynnig cefnogaeth ac awgrymiadau gan y rhai sydd wedi bod yn gweithio gyda, neu’n parhau i weithio'n uniongyrchol gyda myfyrwyr, ac yn cael ei greu yn effeithiol gan 'academyddion ar gyfer academyddion'.
Mae ein diolch am eu cefnogaeth a'u haelioni yn mynd i:
Cyfrannwch drwy ein tudalen gyswllt os gwelwch yn dda.